Ynglŷn â Chanolfan

Mae arbenigedd mewn Astudiaethau Arthuraidd yn elfen amlwg yng ngwaith addysgu ac ymchwil Prifysgol Bangor er ei sefydlu ym 1884. Mae'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd yn parhau â'r gwaith safonol hwn, ac ysgolheigion yn Ysgol y Gymraeg ac Ysgol Llenyddiaeth Saesneg (yn bennaf) yn cyfrannu at ei gweithgareddau.

Mae Llyfrgell Prifysgol Bangor (gan gynnwys yr Archif a Chasgliadau Arbennig) yn meddu ar adnoddau heb eu hail mewn Astudiaethau Arthuraidd, a'r rhain yn cynnwys nifer o lyfrau prin. Darparwyd seiliau pwysig i'r casgliadau hyn gan roddion preifat yn y dyddiau cynnar, ac maent yn parhau i dyfu diolch i waith dyfal ysgolheigion Bangor, a gofal ei llyfrgellwyr.

Mae’r Ganolfan Ymchwil newydd hon yn darparu canolbwynt i ymchwil ryngwladol mewn Astudiaethau Arthuraidd: ei bwriad yw tynnu ynghyd arbenigeddau sy’n ymwneud â holl ystod cronolegol y chwedlau Arthuraidd – o’r canol oesoedd hyd y cyfnod diweddar. Mae alumni ein rhaglenni MA a PhD, yn ogystal â chydweithwyr ar draws y byd, wedi eu cyfethol yn gymrodorion anrhydeddus o’r ganolfan a chaiff y cysylltiadau rhyngwladol eu cyfoethogi gan y ffaith i ddau o ysgolheigion Bangor gael eu hethol i safleoedd amlwg yn y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol.

Dyma gymdeithas ysgolheigaidd a sefydlwyd ym 1949, y mae ganddi dros fil o aelodau unigol a thri chant o aelodau sefydliadol. Bu'r Athro Emeritws P.J.C. Field, golygydd gweithiau Thomas Malory, yn llywydd rhyngwladol (2002-2005) a llywydd cangen Prydain y gymdeithas (1999-2002), ac mae'r Athro Raluca Radulescu, sefydlydd a chyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Arthuraidd, ar hyn o bryd yn llywydd cangen Prydain. Mae'r Athro Radulescu hefyd yn olygydd cyffredinol cyfnodolyn y gymdeithas, Journal of the International Arthurian Society.