Hanes y Casgliadau

Mae hanes casgliadau Arthuraidd a Cheltaidd Llyfrgell Prifysgol Bangor yn dyddio i adeg sefydlu'r Brifysgol ei hun yn 1884, pan dderbyniwyd rhoddion gan gymwynaswyr lleol yn ogystal â chan ysgolheigion ac aelodau o staff y Brifysgol.

Yn ddiweddar, bu Llyfrgelloedd Sir y Fflint mor garedig â rhoi eu Casgliad Arthuraidd i Brifysgol Bangor, ac yma bellach y gofalir amdano gan y Gwasanaethau Llyfrgell, Archifau a Chasgliadau Arbennig. Cafodd y casgliad ei roi'n wreiddiol i Lyfrgelloedd Sir y Fflint yn 1952 gan E.R. Harries, cyn-lyfrgellydd y sir, ac ychwanegwyd yn helaeth ato wedyn. Y mae ynddo erbyn hyn dros ddwy fil o eitemau sydd o ddiddordeb i ysgolheigion a darllenwyr cyffredin, ac mae'n cyfoethogi casgliad blaenorol Bangor yn enwedig oherwydd y llyfrau prin. Mae'r holl adnoddau bellach ar gael i mewn un lleoliad, heb orfod teithio rhwng yr Wyddgrug a Bangor.

Dathlwyd derbyn Casgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint yn 2015 gyda lansiad a darlith gyhoeddus gan Dr Roger Simpson, ac arddangosfa o lyfrau prin o gasgliadau Bangor a Harries Sir y Fflint, dan ofal yr Athro Raluca Radulescu a Shan Robinson [dolen yma].