Statws Aelod Cyswllt a Chymrawd

Dewch yn Aelod Cyswllt neu'n Gymrawd o'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd

Gwyddom fod nifer o unigolion a sefydliadau y tu hwnt i'r Ganolfan Astudiaethau Arthur yn rhannu ein diddordebau, ein nodau a'n dyheadau deallusol. Mae gweithio mewn partneriaeth â'r cydweithwyr a'r budd-ddeiliaid hyn yn hanfodol wrth inni ddatblygu. O'r herwydd, rydym yn cynnig aelodaeth gyswllt i unigolion a sefydliadau mewnol ac allanol sy'n cefnogi ac yn cyfrannu tuag at ein hamcanion hir-dymor. Cynigiwn hefyd statws Cymrawd i unigolion, yng nghyswllt prosiectau mwy byr-dymor.

Cynigir aelodaeth gyswllt a statws cymrawd fel ffordd o wella ein cyrhaeddiad academaidd a'n gallu cydweithredol, o fewn Prifysgol Bangor ac, yn bwysig ddigon, wrth ymgysylltu â rhwydwaith o bartneriaid allanol mewn sefydliadau ymchwil eraill a sectorau perthnasol eraill (e.e., treftadaeth ddiwylliannol; archifau). Bydd ein haelodau cyswllt a'n cymrodyr yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o sicrhau cyrhaeddiad y Ganolfan ledled Cymru, ac yn cynorthwyo wrth inni ddangos perthnasedd pellgyrhaeddol a rhyngwladol ein gwaith.

Aelodaeth Gyswllt

Bwriedir aelodaeth gyswllt ar gyfer cysylltiad gweddol hir-dymor, y gellir ei adnewyddu'n flynyddol. Bydd hyn yn berthnasol nid yn unig i sefydliadau, ond hefyd i ysgolheigion y mae eu prosiectau ymchwil yn berthnasol i gasgliadau Arthuraidd Llyfrgell Prifysgol Bangor ac i ddiwylliant ymchwil y Ganolfan. Ni chaniateir aelodaeth gyswllt fel rheol heb dystiolaeth o gyrhaeddiad ysgolheigaidd. Bydd Aelodau Cyswllt unigol yn cyfranogi'n llawn o weithgareddau ymchwil y Ganolfan, ac yn cyflwyno papurau ymchwil yn seiliedig ar eu gwaith yn y Ganolfan.

Statws Cymrawd

Cynlluniwyd y cymrodoriaethau byr-dymor hyn (rhwng pythefnos a semester cyfan) i gefnogi prosiectau ymchwil unigol a ddiffiniwyd yn fanwl, ac sy'n berthnasol i gasgliadau Arthuraidd Llyfrgell Prifysgol Bangor. Bydd y cymrawd yn derbyn lle i weithio yn y Ganolfan, mynediad i adnoddau'r Brifysgol (gan gynnwys cyfrifiaduron), a chaiff gyfranogi o weithgareddau ymchwil y Ganolfan. Pan ddaw'r gymrodoriaeth i ben, gofynnir am bostiad neu flogiad byr, ar destun y prosiect ymchwil.

Cymhwysedd

Rhaid i unigolion a sefydliadau sydd eisiau gwneud cais am statws aelod cyswllt (neu statws Cymrawd) fedru dangos cyfraniad gweithredol at nodau a dyheadau'r Ganolfan.

  • Yn achos unigolion gall hyn fod ar ffurf gweithgarwch ymchwil; cyhoeddiadau o safon; addysgu ar lefel addysg uwch; goruchwylio astudiaeth ôl-radd; gwybodaeth am gasgliad(au); ac/neu arbenigedd curadol mewn meysydd sy'n ymwneud â hunaniaeth ddeallusol y Ganolfan.*
  • Yn achos sefydliadau, cymdeithasau a grwpiau, gall hyn fod ar ffurf blaenoriaethau sefydliadol; gweithgarwch ymchwil; ac/neu arbenigedd curadol mewn meysydd sy'n ymwneud â hunaniaeth y Ganolfan. Gall sefydliadau o'r fath gynnwys archifdai; sefydliadau treftadaeth ddiwylliannol; canolfannau ymchwil ac endidau academaidd eraill; cymdeithasau hanes/treftadaeth a grwpiau cymunedol; a chyrff sy'n weithredol mewn meysydd cyfagos perthnasol.

*Bydd pob ymchwilydd doethurol ac ôl-ddoethurol, pob cymrawd ymchwil er anrhydedd, pob athro gwadd a phob archifydd proffesiynol a benodir i weithio ar brosiectau sy'n deillio o'r Ganolfan yn dod yn aelod yn awtomatig.

Y broses o wneud cais

Rhaid i bob ymgeisydd lenwi ffurflen gais. Nid oes dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau.

Dylid anfon ffurflenni cais wedi eu llenwi at arthur@bangor.ac.uk (neu trwy'r post).

Cyhoeddir rhestr o'r aelodau cyswllt ar wefan y Ganolfan Ymchwil.

Cewch wneud cyfraniad ariannol at waith Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru drwy fynd i'r dudalen berthnasol ar ein wefan.