Ffeithiau

  • Lleoliad: Blackboard Collaborate - ar-lein
  • Amser: Dydd Iau 25 Mawrth 2021, 13:00–14:00
  • Cyflwynydd: Canolfan Astudiaethau Arthuraidd
  • Mwy o wybodaeth: Cliciwch yma i ymuno â'r sesiwn

Mawrth 2021

SuLlMaMeIGSa
123456
78910111213
14151617181920
21222324252627
28293031

Writing War in Postmedieval British Arthurian Literature

Yr Athro Andrew Lynch, Prifysgol Western Australia, President, International Arthurian Society

Mae'r ddarlith hon yn trafod y traddodiadau Arthuraidd yn llenyddiaeth fodern Saesneg, gan ofyn sut mae awduron o Spenser i Ishiguro yn ymwneud â rhyfel. Ni cheir yma hanes rhyw ddelfryd gwreiddiol yn dirywio ac yn adfywio, ond yn hytrach drawsnewid parhaus o dan amodau newidiol sy’n galluogi ymatebion newydd. Yn sgil dirywiad ôl-ganoloesol rhyfeloedd Arthur fel hanes credadwy, aeth y rhyfela hwnnw yn bwnc haws ei addasu at ddibenion cyfoes, ac mae gweithiau newydd dychanol a beirniadol yr un mor arwyddocaol â fersiynau cadarnhaol a delfrydol. Gyda’i gilydd, dangosant fod mater rhyfel, yn anad dim, wedi caniatáu i stori Arthur ddenu sylw o gyfnodi gyfnod, tra erys yn gysylltiedig â phrofiadau byw.

Cliciwch yma i ymuno â'r sesiwn