Guenevere in the Nunnery: Nineteenth-Century Literature and Art
'Guenevere in the Nunnery: Nineteenth-Century Literature and Art',
Dr Alan Lupack, Prifysgol Rochester
Cliciwch yma i ymuno â'r sesiwn
Mae awduron o’r Oesoedd Canol hyd yr ugeinfed ganrif yn sôn am Wenhwyfar yn cilio i leiandy tua diwedd teyrnasiad Arthur. Er bod yr hanesion canoloesol weithiau'n cynnwys cyfarfod terfynol rhwng Lawnslot a Gwenhwyfar, nid tan y bedwaredd ganrif ar bymtheg y sylweddolir y posibiliadau dramatig o drefnu cyfarfod rhwng Arthur a'i frenhines. Yn “Guinevere”, mae Tennyson yn disgrifio ymweliad Arthur â’r lleiandy, lle mae Gwenhwyfar yn ymgreimio wrth ei draed. Daeth yr olygfa ddadleuol hon yn un gyfarwydd, ac fe’i gwelir dro ar ôl tro mewn llenyddiaeth a chelf. Arweiniodd hefyd at archwiliad o'r berthynas rhwng Arthur a Gwenhwyfar, a rhai awduron yn cyflwyno’r olygfa yn y lleiandy mewn modd gwahanol iawn i hynny a geir yn yr Idylls.