Arbenigwraig o Brifysgol Bangor yn cyfrannu at lansio stampiau chwedlau Arthur

Mae cymeriadau chwedlau Arthur yn amlwg mor boblogaidd ag erioed wrth i’r Post Brenhinol gyhoeddi casgliad newydd o stampiau heddiw (16.3.21).

Comisiynwyd y dyluniadau newydd gan yr artist Jaime Jones, ac mae’r testun sy’n cyd-fynd â nhw wedi ei lunio gan yr Athro Raluca Radulescu, o Brifysgol Bangor, sy’n arbenigo yn chwedlau Arthur.

Mae comisiynu cyfres newydd o stampiau i’w casglu yn gyfle i archwilio apêl Ewropeaidd chwedlau Arthur yn y Canol Oesoedd yn ôl yr Athro Radulescu.

O wreiddiau Cymraeg chwedlau’r Arthur Celtaidd i ddehongliadau cyfoes, megis cyfres Cursed a ymddangosodd ar Netflix y llynedd, neu’r ffilm Sir Gawain and the Green Knight, sydd eto i’w rhyddhau, ac yn serennu Dev Patel, mae’r chwedlau’n parhau i ysbrydoli awduron ledled y byd.

Gwenhwyfar, Myrddin, Marchogion y Ford Gron, Syr Lawnslot yn gorchfygu’r ddraig a Syr Galâth yn canfod y Greal Sanctaidd sydd i’w gweld ar y stampiau.

Meddai’r Athro Raluca Radulescu o Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth Prifysgol Bangor:

“Prin fod blwyddyn yn mynd heibio heb ail-weithiad o’r chwedlau Arthuraidd, boed yn gyfres teledu neu ffilm newydd.

Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael cyfrannu at lunio cyflwyniad i’r gyfres yma o stampiau, a’r erthygl sy’n cyd-fynd â nhw ym Mlwyddlyfr y Post Brenhinol, a fydd yn cyflwyno’r cyhoedd i straeon canoloesol amlieithog, aml-hil, a’u pwysigrwydd i wleidyddiaeth a diwylliant ar draws y canol oesoedd a thu hwnt.”

A hithau’n arbenigwraig o fri rhyngwladol ar lenyddiaeth Arthuraidd, yr Athro Raluca Radulescu sy’n arwain yr unig  gwrs MA mewn Astudiaethau Arthuraidd sy’n bodoli’n unman.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Mawrth 2021