BAFTA Cymru a Pontio yn cyflwyno rhagddangosiad arbennig o King Arthur: Legend of the Sword

© 2017 Warner Bros. Entertainment, Inc.© 2017 Warner Bros. Entertainment, Inc.Mae’n bleser gan BAFTA Cymru a Chanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Bangor gyhoeddi rhagddangosiad arbennig o’r ffilm hir-ddisgwyliedig KING ARTHUR: LEGEND ON THE SWORD yn Sinema Pontio Nos Sul, 14 Mai am 8pm.

Gyda ffilmio ar leoliad yn Nyffryn Ogwen yn rhan helaeth o ffilm newydd Guy Ritchie, dyma gyfle gwych i weld y golygfeydd godidog a’r hud yn dod yn fyw ar y sgrîn fawr CYN iddo gael ei ryddhau drwy’r DU ar ddydd gwener 19 Mai gan Warner Bros. Pictures.

Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru, “Mae’r cyfle i gynnig rhagddangosiad o’r ffilm hir-ddisgwyliedig yma ac i ddathlu’r defnydd o leoliadau epig yng Nghymru yn allweddol i rôl BAFTA o ran dathlu hyd a lled y criw talentog sy’n gweithio ar brojectau ffilm yng Nghymru.  Bydd yn noson arbennig i’r diwydiant lleol, i’n aelodau a’r cyhoedd.”

Yn serennu yn y ffilm mae Charlie Hunnam, Jude Law, Astrid Bergès-Frisbey, Djimon Hounsou, Aidan Gillen a Eric Bana, ac mae’r ffilm yn cymryd gogwydd iconoclastig ar chwedl Excalibur, gan ddilyn taith Arthur o’r strydoedd i’r orsedd. 

Wedi i dad y plentyn Arthur gael ei lofruddio, mae ewythr Arthur Vortigern (Jude Law) yn dal gafael ar y goron.  Gyda’i genedigaeth-fraint wedi ei ddwyn oddi arno, a chyda dim syniad o’i hawl drost y goron, mae Arthur yn cael ei fagu ar strydoedd y ddinas. Ond unwaith y mae’n tynnu’r cleddyf o’r garreg, mae ei fywyd yn cael ei wyrdroi ac mae’n gorfod wynebu ei etifeddiaeth…er gwell neu er gwaeth.

Meddai Ysgrifenydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates, “Rwy’n falch iawn fod BAFTA Cymru a Pontio wedi sicrhau’r dangosiad arbennig yma yn yr ardal ble cafodd y ffilm ei saethu – sy’n arddangos tirlun epig Cymru a’n potensial fel lleoliad ffilm.  Mae rhyddhau’r ffilm yma yn ystod ein Blwyddyn Chwedlau yn amseru perffaith wrth i ni archwilio’r llu o chwedlau sydd yma yng Nghymru a dod â’r gorffennol yn fyw eleni.  Mae Croeso Cymru hefyd yn partnerio gyda VisitBritain ar ymgyrch ddigidol ‘Where Stories Become Legends’ sy’n arddangos y lleoliadau chwedlonol rheiny ym Mhrydain y Brenin Arthur i gynulleidfaoedd rhyngwladol.”

Mae tocynnau ar gyfer y rhagddangosiad arbennig yma ar gael ar www.pontio.co.uk neu drwy ffonio’r Swyddfa Docynnau 01248 38 28 28.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2017