Blog: Dathlu cyhoeddi’r gyfrol newydd 'Arthur in the Celtic Languages'
Roedd Ystafell y Cyngor Prifysgol Bangor dan ei sang ar 28 Chwefror 2019 i ddathlu cyhoeddi’r gyfrol newydd Arthur in the Celtic Languages. The Arthurian Legend in Celtic Literature and Traditions (Gwasg Prifysgol Cymru), a gyd-olygwyd gan y Dr Ceridwen Lloyd-Morgan FLSW, Cymrawd Ymchwil er Anrhydedd ac aelod o’r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor, a’r Athro Erich Poppe, a ymddeolodd yn ddiweddar o Gadair Astudiaethau Celtaidd Philipps-Universität, Marburg. Cynhaliwyd y digwyddiad tra llwyddiannus hwn dan nawdd y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, trwy wahoddiad caredig y Cyfarwyddwr, yr Athro Raluca L. Radulescu FLSW. Amlygodd hyn draddodiad hir a pharhaus Bangor ym maes astudiaethau Arthuraidd a Cheltaidd ers sefydlu’r Brifysgol a’i llyfrgell yn 1884; fe’n hatgoffwyd gan lansiad heddiw o’r symposiwm pwysig ‘Chwedlau Arthur yng Nghymru a thu hwnt’ a gynhaliwyd yma fis Mehefin 2018, ac dyma gyfle hefyd i edrych ymlaen tua’r XVIeg Gyngres Astudiaethau Celtaidd Ryngwladol, a ddaw i Fangor 22-26 Gorffennaf eleni.
Wedi gair o groeso yn Saesneg ac yn Gymraeg gan yr Athro Radulescu a Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan, y Dr Aled Llion Jones, cyflwynodd Dr Lloyd-Morgan y ddau siaradwr gwadd. Torrodd yr Athro Poppe dir newydd wrth drafod emosiwn yn chwedl Cymraeg Canol Owain a thestunau cyfatebol yn Ffrangeg, Saesneg ac ieithoedd Llychlyn, a chynigiodd yr Athro Sioned M. Davies FLSW, o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, ddehongliad newydd o destun Cymraeg Canol arall, Breuddwyd Rhonabwy, gan dynnu ar ymchwil empiraidd ysgolhaig nodedig o Fangor, y diweddar Ddr Constance Bullock-Davies.
A chyfranwyr o Gymru, yr Alban, Iwerddon, Lloegr, yr Almaen, Llydaw ac UDA yn trafod testunau a thraddodiadau yn yr holl ieithoedd Celtaidd o’r Oesoedd Canol hyd yr 20fed ganrif, dengys Arthur in the Celtic Languages yn glir fod ysgolheictod yn ei hanfod yn gydwladol, amlieithog a chydweithredol. Pwysleisiwyd hyn ymhellach gan nifer yr ieithoedd a siaredid wrth i bawb rwydweithio tra’n mwynhau’r lluniaeth. Bu aelodau o’r cyhoedd yn bresennol yn ogystal â nifer o Gymrodyr y Gymdeithas Ddysgedig, a rhai ohonynt o ddisgyblaethau eraill, gan gynnwys yr Athro Alan Shore FLSW, Athro Peiranneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor ac Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymdeithas. Mawr yw’n diolch iddynt hwy ac i’r Gymdeithas am eu cefnogaeth i’r digwyddiad hwn.
Darlledwydd y darlithoedd ar-lein i gynulleidfa bydeang trwy eu ffrydio’n fyw, ac mae’r recordiadau ar gael erbyn hyn ar wefan y Ganolfan.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mehefin 2019