Cymdeithas ôl-raddedig Rhyngwladol mewn Astudiaethau Arthuraidd yn cael ei lansio gan Brifysgol Bangor

Am y tro cyntaf ers dechrau cynnal y gynhadledd hon 16 mlynedd ôl bu’r rhaid newid lleoliad cynhadledd Trawsnewid yr Oesoedd Canol o’r 'Coleg ar y Bryn' i leoliad rhithiol mewn cydweithrediad â’r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd. Dros ddau ddiwrnod (18-19 Medi 2020), croesawodd y Ganolfan dros 150 o siaradwyr a mynychwyr o bob rhan o'r byd i gyfnewid syniadau am 'Symud trwy Chwedlau Arthuraidd'. Edrychodd y gynhadledd ar sut y caiff testunau eu hail-ddyfeisio dros amser, pa rôl y mae testunau'n ei chwarae yn eu moment hanesyddol a thu hwnt i hynny, a sut mae testunau'n ymdrin â symudiad o ran cyfnod, diwylliant a lleoedd. Rhai o’r uchafbwyntiau oedd: panel yn trafod 'Symud Materol', yn edrych ar  anifeiliaid Arthuraidd yn symud yn ogystal â rôl cartograffeg mewn testunau Cymraeg Canoloesol; panel ar symudiad iaith drwy destunau canoloesol; panel yn edrych ar y Brenin Arthur Cymreig; a phaneli amrywiol ar addasiadau’r Cyfnod Modern Cynnar a’r Cyfnod Modern o’r chwedl Arthuraidd. Prif uchafbwynt y gynhadledd, wrth gwrs, oedd ein prif siaradwr, Dr Aisling Byrne sy'n Ddarlithydd mewn Llenyddiaeth Saesneg Ganoloesol ym Mhrifysgol Reading, a roddodd bapur yn dwyn y teitl 'Medieval Arthurian Texts in Motion'. Er i'r gynhadledd orfod addasu i fformat ar-lein oherwydd cymhlethdodau’r pandemig, golygodd hynny i nifer o ysgolheigion o bob cwr o'r byd gael eu denu i’r digwyddiad. Roedd cyflwynwyr o lefydd mor bell i ffwrdd â Gogledd America (Prifysgol Yale, Prifysgol Memorial, a Phrifysgol Western i enwi dim ond rhai) ac mor agos â Phrifysgol Bangor, Prifysgol Rhydychen, a Phrifysgol Caeredin (eto i enwi dim ond rhai) wedi llwyddo i ddod at ei gilydd i fwynhau trafodaethau Arthuraidd. Yn ogystal, o gynnal y gynhadledd ar-lein llwyddwyd i groesawu cynulleidfa ganoloesol eclectig, gan gynnwys nifer o ysgolheigion Arthuraidd hynod nodedig yn ogystal â rhai o gyn-fyfyrwyr y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd. Â ninnau’n wynebu pandemig byd-eang, rhoddodd y gynhadledd ar-lein hon anogaeth gadarnhaol i bobl ifanc sy’n ymddiddori yn yr oesoedd canol a bod yn gyfrwng i bobl gael gwneud cyswllt â’i gilydd, sy’n rhywbeth y mae mawr ei angen yn y cyfnod cythryblus sydd ohoni. Oherwydd i’r gynhadledd gael ei chynnal ar-lein, llwyddodd i chwalu rhywfaint ar y rhwystrau fu’n gwahanu’r byd academaidd a'r gymuned ehangach gan alluogi mwy o bobl i ymwneud â’r maes. Yn gyffredinol, roedd cynhadledd Trawsnewid yr Oesoedd Canol eleni’n llwyddiant ac mae'r trefnwyr yn edrych ymlaen at groesawu cyflwynwyr a mynychwyr yn ôl yn 2021. 

Dros yr wythnosau nesaf, fel dilyniant i'r gynhadledd, byddwn yn gwahodd cyflwynwyr i gyhoeddi eu crynodebau ar wefan y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd. Bydd hyn yn ffurfio crynodeb terfynol o'r syniadau a ddatblygodd yn ystod dau ddiwrnod y digwyddiad i'r rhai a fethodd ymuno yn y digwyddiad ac i'r rhai sy'n dymuno ailymweld â rhai o'r papurau a gyflwynwyd.

 

Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2020