Neges Blog: Beardsley Malory
Teitl llyfr:
Sir Thomas Malory. Le Morte DArthur. J. M. Dent & Co: Llundain, 1893-4.
Gwaith darlunio gan Aubrey Beardsley.
Post:
Ddydd Mawrth, 26 Gorffennaf 2016 fe wnaeth Dr Samantha Rayner (UCL) a mi ymweld â lle rhyfeddol; drwy garedigrwydd Llyfrgell Prifysgol Bangor a Chanolfan Stephen Colclough ar Hanes a Diwylliant y Llyfr: sef uned storio llyfrau. Yng nghornel ystâd ddiwydiannol yng Ngogledd Cymru, mae'r warws enfawr hwn yn gartref i filoedd o gyfrolau sy'n eiddo i Brifysgol Bangor. Mae'r rhain yn llyfrau nas cedwir bellach ym mhrif lyfrgell y brifysgol am nifer o resymau - boed oherwydd newidiadau mewn meysydd llafur, argraffiadau mwy modern yn disodli rhai hŷn, neu newidiadau o ran ffasiwn yn rhai meysydd astudio. Mae'r llyfrau a symudwyd i'r uned hon yn destun cryn bryder i lyfrgelloedd o ran storio deunyddiau i wneud lle i gyfrolau a chasgliadau mwy diweddar ond, ar y llaw arall, i lyfrgarwyr maent yn drysorfa o ddeunydd sydd bron wedi mynd yn angof - fel y gwnaethom ni ddarganfod.
Wrth bori ar hyd y silffoedd - sydd i gyd yn cynnwys deunydd heb ei gatalogio - fe wnaeth Dr Rayner a minnau ddarganfod sawl perl. Y gloywaf yn eu plith oedd argraffiad hynod gain o Le Morte DArthur gan Syr Thomas Malory, gyda'r gwaith arlunio gan Aubrey Beardsley (g. 1872, m. 1898). Fe'i cyhoeddwyd rhwng 1893-4. Mae hwn yn waith eiconig i ysgolheigion sy'n ymddiddori yn y Chwedl Arthuraidd, cyhoeddi yn oes Victoria, a hanes celf.
Yn ôl y beirniad celf Haldane Macfall, cyfarfyddiad ar hap mewn siop lyfrau yn Cheapside rhwng yr arlunydd Aubrey Beardsley a'r cyhoeddwr John M. Dent a arweiniodd at gyhoeddi'r gwaith hwn. Mae'n un o'r argraffiadau mwyaf ysblennydd ac eiconig o Le Morte DArthur Syr Thomas Malory a gyhoeddwyd yn ystod yr Adfywiad Arthuraidd yn Oes Victoria ac, yn wir, yn y cyfnod modern hefyd.
Roedd Beardsley, a weithiai fel clerc yswiriant yn Llundain, yn mynd yn gyson i siop lyfrau Jones and Evans ar Queen Street. Daeth yn gyfeillgar ag un o'r perchenogion, Fredrick Evans, a byddai'n dangos ei ddarluniau iddo. Yn 1892 roedd y cyhoeddwr Dent hefyd yn y siop lyfrau, a dywedodd wrth Evans ei fod yn chwilio am arlunydd arloesol i ddarlunio menter gyhoeddi newydd.
Roedd Dent wedi penderfynu cyhoeddi argraffiad o glasur Arthuraidd Malory, Le Morte D'Arthur, a'i nod oedd cyhoeddi clasuron cain, ond fforddiadwy, a fyddai'n cystadlu â'r argraffiadau drudfawr a gynhyrchid gan Kelmscott Press William Morris. Yn ôl y stori roedd Dent yn sôn am hyn wrth Frederick Evans pan ddigwyddodd Beardsley ddod i mewn i'r siop lyfrau. "Dyna'ch dyn chi!" meddai Evans.
Ar ôl cynnig darlun enghreifftiol, yr ymatebodd Dent yn frwdfrydig iddo, cynhyrchodd Beardsley bron i 500 o ddarluniau du a gwyn ar gyfer y llyfr. Roedd rhai yn bur radical ac yn wahanol iawn i'r portreadau Arthuraidd a gafwyd o'r blaen:
…some of the full-page illustrations, such as “The Lady of the Lake Instructing Arthur About Excalibur” conform to standards typical
of the Arthurian Revival, others subvert that standard through
nudity, androgyny, and violence. More often than not, Beardsley
stripped the heroes of their strength and nobility, presenting them reclining, sleeping, or dominated by women.
(The Arthurian Handbook, tt. 241-42)
Nifer gyfyngedig o 1,800 o gopïau o'r llyfr a gyhoeddwyd. Roedd 300 ohonynt wedi'u hargraffu ar bapur o'r Iseldiroedd wedi'i wneud â llaw a 1,500 o gopïau cyffredin - un o'r rheini yw'r copi y daethom ni ar ei draws.
Hwn oedd gwaith comisiwn cyntaf Beardsley fel arlunydd. Fe'i galluogodd i adael ei swydd yswiriant i ddefnyddio ei ddoniau fel arlunydd a daeth yn ffigwr pwysig yn y mudiad Art Nouveau. Bu fawr o'r diciau yn 1898, dim ond pedair blynedd ar ôl cwblhau'r darluniadau ar gyfer Le Morte D'Arthur Dent, sy'n dal i fod yn un o argraffiadau mwyaf eiconig cyfrolau Arthuraidd y cyfnod modern.
Nodiadau a darllen pellach:
Mae'r wybodaeth yma wedi ei seilio ar lyfr cain arall a gedwir yng Nghasgliad Arthuraidd E.R. Harries:
Haldane Macfall. Aubrey Beardsley: The Man and His Work. John Lane and the Bodley Head Limited: London, 1928.
Gweler hefyd: The Arthurian Handbook, 2nd ed. Eds Norris J. Lacy, Geoffrey Ashe, Debra N. Mancoff (Routledge: New York and Abingdon, 2013), pp. 240-243.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2018