Rhodd Arbennig i'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd: Platiau'r Brenin Arthur - Post blog
Ar 13 Chwefror 2018 fe wnaeth y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd groesawu gwesteion eithriadol o hael. Fe wnaeth Mr a Mrs Rawlinson o Wilmslow yn garedig iawn roi set arbennig o blatiau'n rhodd i'r ganolfan er cof am dad Mrs Rawlinson, Yr Athro Roland C. Johnston. Cafodd y chwe phlât eu comisiynu'n breifat gan y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwldol i ddathlu ei phen-blwydd yn 30 yn 1979. Cynhyrchwyd y platiau gan Royal Worcester a nifer gyfyngedig a wnaed, gyda gwaith gwreiddiol gan yr arlunydd James Marsh ar bob plât. Mae'r delweddau'n olygfeydd pwysig o'r rhamantau Arthuraidd. Fe'u haddurnwyd â llaw mewn aur 24 carat ar tsieni esgyrn, sef y porslen gorau ohonynt i gyd.
Bu perchennog gwreiddiol y platiau, Yr Athro Roland C. Johnston, yn Athro Iaith a Llenyddiaeth Ffrengig ym Mhrifysgol St Andrews o 1948 tan 1961. Gyda'r Athro Eugène Vinaver fe sefydlodd y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol yn 1948.
Nifer gyfyngedig iawn o'r platiau a wnaed ac roeddent wedi'u neilltuo'n unig i aelodau'r Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol. Roedd pris pob plât yn £33, ac i gyd-fynd â'r platiau cafwyd deunydd cyfeiriadol arbennig yn disgrifio pob golygfa a gafwyd ar y platiau, a'i lle yn chwedl y Brenin Arthur a Marchogion y Ford Gron. Roedd y deunydd hwn yn waith Yr Athro Philippe Ménard, Prifysgol La Sorbonne, Ffrainc.
Rhoddwyd tystysgrif ddilysrwydd hefyd gyda phob un o'r platiau.
Yn y delwedd o'r pedwar plat:
- Y ddelwedd gyntaf yw golygfa lle mae'r marchogion Peredur, Bohort a Galâth, ar ôl cyflawni'r Ymchwil am y Seint Greal, yn cyrraedd ar eu llog hud i'r ddinas chwedlonol ger Saras.
- Cyflwyniad dramatig y Galâth ifanc i'r Ford Gron, gan eistedd am y tro cyntaf yn y sedd nad oedd neb ond ef yn deilwng o fod ynddi.
- Portread o'r dewin Myrddin wrth iddo wylio'r hudoles Viviane yn bwrw arno'r hud a fyddai’n ei gaethiwo am dragwyddoldeb.
- Marwolaeth ingol Arthur, gyda'i long frenhinol yn llithro o'r lan i Ynys Afallon ddirgel o'r lle y bydd yn dychwelyd un dydd yn ôl y chwedl.
Hoffai'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ddiolch i Mr a Mrs Rawlinson am eu rhodd garedig.
Bu gwerthu'r platiau'n fodd i sefydlu'r hyn a ddaeth yn ddiweddarach yn Ymddiriedolaeth Vinaver, ymddiriedolaeth elusennol a sefydlwyd i gyhoeddi ysgolheictod Arthuraidd. Ers ei sefydlu bron i ddeugain mlynedd yn ôl yn 1981 mae Ymddiriedolaeth Vinaver wedi medru cefnogi gwaith ysgolheigion Arthuraidd yn fyd-eang, gyda bron i 90 o lyfrau'n deillio o gydweithio â chyhoeddwyr rhyngwladol.
Yn dilyn ymgynghori ymysg aelodau pwyllgor Ymddiriedolaeth Vinaver (y mae'r Athro Radulescu yn aelod ohono ar hyn o bryd yn rhinwedd ei swydd fel Llywydd Cangen Prydain o'r Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol), ei Lywydd Yr Athro Jane Taylor (cyn Lywydd IAS) a'r Ysgrifennydd Dr Geoffrey Bromiley (Prifysgol Durham) bydd Archifau Ymddiriedolaeth Vinaver yn cael eu sefydlu yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd yn niwedd 2018. Bydd yr amodau y gellir eu defnyddio i ddibenion ymgynghori yn dilyn yr un canllawiau â'r rhai a luniwyd ar gyfer Archifau Cangen Prydain o'r IAS ac Archifau IAS, a gedwir hefyd yn Llyfrgell ac Archifau Prifysgol Bangor dan y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd.
Gan Shan Robinson a Raluca Radulescu
Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2018