Symposiwm undydd: 'Chwedlau Arthur yng Nghymru a thu Hwnt' - post blog

Cynrychiolwyr: Chwedlau Arthur yng Nghymru a thu HwntCynrychiolwyr: Chwedlau Arthur yng Nghymru a thu Hwnt

28 Mehefin 2018 cynhaliwyd y symposiwm undydd ‘Chwedlau Arthur yng Nghymru a thu Hwnt / Arthurian Legends in Wales and beyond’. Gan adeiladu ar hanes hir o gydweithio mewn ymchwil, noddwyd y digwyddiad gan Brifysgolion Bangor ac Aberystwyth trwy’r Ganolfan Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (SACMC), ac fe’i trefnwyd ym Mangor gan y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd. Angorwyd ffocws ymchwil y gynhadledd yn gadarn yn y traddodiadau Arthuraidd Cymreig, a thema’r gynhadledd yn caniatáu ymdrin â fframwaith eang iawn o ran cyfnodau, ieithoedd a thiriogaeth; adlewyrchwyd hyn hefyd yn mhroffil rhyngwladol y cyfranwyr.

Symudodd y diwrnod ymlaen yn fwy neu lai’n gronolegol, gan ddechrau â phanel a ganolbwyntiai ar y traddoddiad canoloesol yng Nghymru. Dr Owain Jones (Bangor) gyflwynodd y papur cyntaf, ‘Y Gorffennol Arthuraidd yng Ngwynedd y drydedd ganrif ar ddeg’, gan drafod pa oleuni y gall cronicl Cymraeg cynnar ei daflu ar y modd y deellid – ac y defnyddid – chwedloniaeth yn y cyfnod. Cyflwynwyd wedyn gan yr Athro Barry Lewis (DIAS) astudiaeth fanwl o amryw lenddulliau’r farddoniaeth ganoloesol, gan esbonio sut y câi elfennau ‘Arthuraidd’ eu defnyddio at ddibenion delweddaeth a thropoleg. Caewyd y sesiwn gan Dr Simon Rodway (Aberystwyth), a gyflwynodd fyfyrdodau ar gynhanes y ‘chwedl Arthuraidd hynaf’, gan ystyried ei pherthynas â llafaredd, mytholeg, llythrennedd a hanes. Yn ei ‘Golwg ar ddatblygiad Culhwch ac Olwen’, ceisiwyd gan Dr Rodway roi’r farwol i sawl camddealltwriaeth, gan gynnwys y ‘myth’ mai ‘myth’ yw’r chwedl hon.

Yn rhan gyntaf y symposiwm, daeth ynghyd nifer o’r cyfranwyr i’r gyfrol Arthur of the Celtic Languages (Gwasg Prifysgol Cymru) a ddaw o’r wasg yn fuan. Golygwyd y gwaith pwysig hwn gan un sydd ers tro hir yn aelod o’r Ganolfan Ymchwil (ac yn gymrawd er anrhydedd o’r Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar), Dr Ceridwen Lloyd-Morgan, ar y cyd â’r Athro Erich Poppe (Marburg). Yn ei phrif ddarlith, cyflwynodd Dr Lloyd-Morgan (cyn-Bennaeth Llawysgrifau a Delweddau Gweledol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru) drosolwg cynhwysfawr o’r modd y tyfodd ac y lledaenodd apêl Arthur yn yr ieithoedd Celtaidd: yn ‘Arthur yr Ynysoedd a'r Cyfandir: Edrych eto ar lenyddiaeth a thraddodiadau Arthuraidd yn yr ieithoedd Celtaidd’ fe’n harweinwyd ar daith eang a chyfoethog drwy fyd o destunau ag ysgolheictod Arthuraidd, gan amlygu cyd-destun allweddol i lawer o waith y dydd.

Cafwyd yn y prynhawn gyfle i agor llwybrau ymchwil i’r testun tra phoblogaidd hwnnw o’r ddeuddegfed ganrif, Historia regum Britanniae Sieffre o Fynwy, lle y cyflwynwyd Arthur fel brenin a ‘seren bydenwog’. Achau metafforaidd oedd testun cyflwyniad Audrey Martin, myfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Bangor: ‘The heroic family tree of the Historia Regum Britanniae’. Olrheinwyd wedyn hynt Arthur drwy’r canrifoedd mewn bestseller canoloesol arall, sef Le Morte Darthur gan Thomas Malory o’r bymthegfed ganrif; cyflwynwyd ‘Malory and The Book of St Albans’ gan yr Athro Emeritws P.J.C. Field, sydd ers dros hanner canrif yn un o brif ysgolheigion Arthuraidd Prifysgol Bangor, a chynlywydd y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol (http://www.internationalarthuriansociety.com). Daeth yr ail banel hwn i ben â phapur gan fyfyriwr PhD arall o Fangor, Ashley Walchester-Bailes, un o’r myfyriwr cyntaf i astudio mewn perthynas ffurfiol â’r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, ac un yr ariennir ei astudiaethau gan Ysgoloriaeth Cwmni’r Brethynwyr); mae prosiect Ashley yn ymwneud ag adfywiad awduraeth yng nghyd-destun golygiadau modern o waith Malory, a chyflwynodd yma ‘Malory’s “great raft”: Edward Strachey and the Morte Darthur’.

Ymchwil ddiweddar i’r traddodiadau ôl-ganoloesol a fu dan y chwyddwydr yn y trydydd panel, a’r olaf. Bu Dr Kristina Hildebrand (Halmstad, Sweden) yn gymrawd ymchwil ar ymweliad yn y Ganolfan yn ddiweddar, a chyflwynodd yma bapur yn trafod yr awdur Charles Bertram o’r ddeunawfed ganrif: ‘Bertram and Nennius: sources, editions, forgeries’. Gan yr Athro Sioned Davies (Caerdydd) cafwyd papur cyfoethog yn astudio ystyr ac arwyddocâd rhai o’r darluniau yn argraffiadau cynnar cyfieithiadau Charlotte Guest o’r Mabinogion: ‘“A most venerable ruin”: word, image and ideology in Guest’s Geraint’. Daeth y symposiwm i ben gyda Scott Lloyd (CBHC, ac aelod o’r Ganolfan), a drafodai’r berthynas rhwng agweddau academaidd a phoblogaidd at y chwedlau Arthuraidd: ‘Academic vs. popular: the relationship between two different views of King Arthur and Wales’

Roedd sawl papur a draddodwyd yn y symposiwm yn deillio o astudiaethau o ddeunyddiau prin yng nghasgliadau Arthuraidd y Ganolfan, ac o waith ar Archifau’r Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol sydd erbyn hyn wedi eu cyflwyno i ofal y Ganolfan. Croesawyd cynulleidfa o bron i hanner cant o staff, myfyrwyr ac aelodau cysylltiedig o’r gymuned, a hyderir bod y symposiwm hwn wedi braenaru’r tir ar gyfer trafodaethau pwysig pellach ar faterion Arthuraidd a Cheltaidd.

Hoffai’r trefnwyr, yr Athro Raluca Radulescu (Cyfarwyddwr y Ganolfan) a’r Dirprwy Gyfarwyddwr, Dr Aled Llion Jones, ddiolch i Shan Robinson (Gwasanaethau’r Llyfrgell a’r Archifau, a Chasgliadau Arbennig) am ei chymorth a chefnogaeth anhepgor; staff gweinyddol Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau; a Chris Drew, rheolwr y Gymghrair Strategol (SACMC), am gymorth i sicrhau llwyddiant y digwyddiad.

Os hoffech ddysgu mwy am ddigwyddiadau’r Ganolfan sydd i ddod, cewch gofrestru ar ein tudalen gwe: http://arthur.bangor.ac.uk. Ewch at y ddolen ‘Ymunwch â’n rhestr bostio’. 

Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2018