'The Mediaeval Courts of Love' - erthygl blog gan Shan Robinson

Ganed Vyvyan Holland yn Llundain yn 1886 dan yr enw Vyvyan Oscar Beresford Wilde. Roedd yn fab i'r awdur a'r dramodydd nodedig Oscar Wilde, a garcharwyd yn 1895 ar ôl ei gael yn euog o gyhuddiad o 'anwedduster difrifol' oherwydd ei wrywgydiaeth. Yn dilyn yr achos llys hynod gyhoeddus, ceisiodd mam Vyvyan amddiffyn ei bechgyn drwy eu symud dramor a newid eu henwau. Ar ôl symud yn gyntaf i'r Swistir, roedd Vyvyan yn codi ei bac eto'n fuan wedyn gan gofrestru mewn ysgol cyfrwng Saesneg yn yr Almaen. Fodd bynnag, roedd yn anhapus yno ac felly symudwyd ef i ysgol Jeswitaidd ym Monaco. Astudiodd Vyvyan y gyfraith yn Trinity Hall ym Mhrifysgol Caergrawnt o 1905-07. Ailafaelodd mewn astudio'r gyfraith pan oedd yn 22 oed a galwyd i Far Lloegr a Chymru gan yr Inner Temple yn 1912.  Dechreuodd ysgrifennu cerddi a straeon byrion ar ôl hynny.

 

 

Argraffwyd y llyfr bach hwn yn breifat yn 1927 i aelodau o Ye Sette of Odd Volumes, sef clwb cinio Saesneg i lyfrgarwyr a sefydlwyd yn 1878 yn Llundain gan y llyfrwerthwr Quaritch. Mae 'The Sette' yn parhau hyd heddiw'n glwb cymdeithasol bychan preifat sy'n ymwneud â chasglu llyfrau, hanes argraffu, a llyfrgarwyr. Mae'r llyfr, a gynhyrchwyd ar bapur a wnaed â llaw, yn rhan o argraffiad cyfyngedig o ddim ond 13 chopi, a rhif 10 yw'r llyfr arbennig hwn. Mae'r teitl 'The Mediaeval Courts of Love' yn cyfeirio'n ôl at y dadleuon cariad a ddigwyddodd mewn serch lysoedd yn Ffrainc yn y ddeuddegfed ganrif a'r drydedd ganrif ar ddeg, y cyfnod sy'n enwog am ddatblygiad syniadau sifalraidd, cerddi cariad a ganwyd gan drwbadwriaid a trouvères (cerddorion), a'r cynnydd mewn rhamantau canoloesol. Cafwyd cydnabyddiaeth o’r diwedd, mewn materion serch a chariad, fod gan ferched beth rheolaeth dros wrthrychau eu serch a sut roeddent yn cael eu trin. Roedd y llysoedd yn cael eu cynnal gan ferched a oedd yn pasio barn ar faterion yn ymwneud â chariad, ffyddlondeb, sifalri, cwrteisi a moesgarwch.  

Cyflwynwyd y llyfr i'r actores Joan Clement Scott ac mae wedi'i lofnodi gan yr awdur. O fewn ei dudalennau cafwyd hyd i lythyr at Joan Scott yn llawysgrifen yr awdur. Ymddiheuriad yw'r llythyr am fethu â dod i achlysur a drefnwyd, ac mae'n cynnig y llyfr iddi fel math o iawn am ei fethiant.  

 

Ganed Joan Clement-Scott ar 23 Ebrill 1907 yn Marylebone, Llundain a'i henw bedydd oedd Joan Isabelle Footman. Roedd yn actores a ddaeth yn adnabyddus am ei rhannau yn Cæsar's Friend (1939) a Shall We Join the Ladies?  (1939). Priododd â David John Footman a bu farw yn Chelsea, Llundain ar 13 Mai 1960. 

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gwasanaethodd Vyvyan Holland fel Is-Lifftenant yn yr Interpreters Corps, ac yn ddiweddarach yn 114 Battery, XXV Bde Royal Field Artillery. Derbyniodd OBE ar ôl ei ryddhau o'r fyddin yn 1919. Cafodd yrfa lwyddiannus wedyn fel awdur a chyfieithydd. Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd cynigiodd y BBC swydd iddo fel cyfieithydd a golygydd. Bu farw Vyvyan yn Llundain yn 1967 yn 80 oed. 

Mae'r llyfr yn rhan o Gasgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint a ddaeth i Lyfrgell Prifysgol Bangor yn 2014 ac erbyn hyn mae'n rhan o'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd (Arthur.bangor.ac.uk). Cedwir y llyfr gyda'r llyfrau prin a chasgliadau arbennig yn Llyfrgell Prifysgol Bangor a gellir ei weld yn yr archifau o wneud cais amdano.

I wneud apwyntiad i weld y llyfr hwn ac eitemau cysylltiedig eraill o Gasgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint, cysylltwch â Shan Robinson s.a.robinson@bangor.ac.uk

Dyddiad cyhoeddi: 15 Ionawr 2018