Y Tŵr Hud: Wythnos yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd

Yn y rhamant, caiff Lawnslot ei ddal yn gaeth mewn tŵr gan Morgan Le Fay, ac mae’n difyrru’r amser trwy dynnu lluniau ar y waliau. Ym mis Gorffennaf 2016, cefais innau’r profiad pleserus o gael fy 'nal yn gaeth' mewn tŵr hud, lle nad oedd peryg i mi ddiflasu, oherwydd mai tŵr llawn llyfrau yn Llyfrgell Prifysgol Bangor oedd fy ‘ngharchar’ i. 

Gwobr oedd yr wythnos o astudio a ddyfarnwyd i mi am erthygl [https://academicbookfuture.org/2016/02/17/iasbb-competition-winner] a ysgrifennwyd ar gyfer y blog Academic Book of the Future, ac roedd yn well nag unrhyw wobr a enillwyd erioed gan farchog mewn twrnameint; wythnos yng Nghanolfan newydd Astudiaethau Arthuraidd Bangor, gyda’i chasgliad anhygoel o destunau, argraffiadau ac astudiaethau beirniadol Arthuraidd. 

Roedd y telerau’n syml: ar ôl wythnos o astudio, ar unrhyw thema Arthuraidd a fyddai'n dal fy ffansi, byddai’n rhaid cyflwyno adroddiad ar unrhyw ffurf. Roedd y telerau hyblyg yn rhoi rhyddid ac yn codi ofn ar yr un pryd. Wyddwn i ddim beth fyddwn i’n dod o hyd iddo yn y casgliad, ac nid oeddwn yn siwr a oedd disgwyl i mi wneud 'darganfyddiad' - neu beth i'w adrodd os oeddwn i’n methu â gwneud hynny. 

Yn y pen draw, fe wnes i ddarganfyddiad bach. Deuthum o hyd i lyfr rhyfeddol, cerdd ar gwest Parsifal am y Greal, a ysbrydolwyd gan Richard Wagner, y cyfansoddwr adnabyddus, ac, yn ol yr honiad, gan ffynonellau Celtaidd anhysbys. Llyfr gan T. W. Rolleston ydoedd, Parsifal or the Legend of the Holy Grail retold from Ancient Sources with acknowledgement to the ‘Parsifal’ of Richard Wagner, gyda rhagarweiniad gan Willy Pogany (Llundain: Harrap, 1912). Cyflwynwyd y gerdd mewn fersiwn argraffiad cyfyngedig, gydag addurniadau art nouveau unlliw a phlatiau lliw, gan ei gwneud bron mor drawiadol yn weledol â 'copi arddangos' canoloesol o ramant Arthuraidd. Yn dilyn fy 'narganfyddiad' cafodd y llyfr ei gynnwys yn yr arddangosfa rithwir 'Malory a'i Ddilynwyr' [ http://arthurian-studies.bangor.ac.uk/exhibition/bangor/21.php], ac roeddwn wrth fy modd, flwyddyn yn ddiweddarach, pan gafodd fy ymchwil ar y testun hwn a'r gwaith darlunio ei derbyn a’i chyhoeddi yn y Journal of the International Arthurian Society(JIAS) (JIAS) [https://www.degruyter.com/view/j/jias.2017.5.issue-1/jias-2017-0007/jias-2017-0007.xml]. 

Yn y cyfamser, pan gyrhaeddais ym Mangor, doedd gen i ddim cynllun gweithredu, ac ni fuasai modd yn y byd i mi fod wedi paratoi un. Roedd y casgliad yn y ‘tŵr’, Casgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint, a ddelid o’r blaen yn Llyfrgell Sir y Fflint, yn newydd, nid yn unig i mi, gan mai dim yn ddiweddar roedd wedi dod i'r Ganolfan, ac fe’m rhybuddiwyd y gallai rhai manylion yn y catalog papur fod yn anghywi. 

Dechreuais gyda'r catalog a nodais rai gweithiau yr oeddwn i am edrych arnynt. Yna euthum o amgylch yr ystafell a phori drwy’r silffoedd am unrhyw lyfrau a fyddai'n dal fy llygad, yn seiliedig ar y teitl, yr awdur neu hyd yn oed y meingefn. Yn fuan iawn, daeth pentwr o lyfrau yn dŵr arall ar fy mwrdd: roedd gweithiau mewn meysydd yr oeddwn i bob amser wedi bod yn awyddus i wybod mwy amdanynt, ond erioed wedi cael yr amser, neu ar y themâu yr oeddwn i wedi dechrau gweithio arnynt ac yna eu rhoi heibio yn ystod fy ymchwil ddoethurol, yn ogystal â rhai ffynonellau primaidd dim ond oherwydd eu bod yn edrych yn atyniadol. Wrth reswm dewisais lawer mwy o lyfrau nag y gallwn i eu darllen mewn cyfnod mor fyr o amser, heb sôn am eu hastudio mewn dyfnder mewn cwta wythnos, ond hyd yn oed wedyn daliais ati i ychwanegu mwy o lyfrau at y pentwr dros yr ychydig ddyddiau nesaf. Pe bawn wedi bod yn sefyllfa Lawnslot, byddwn wedi cydsynio’n llawen i gael fy nghloi yn y tŵr; ond roedd Llyfrgell y Brifysgol yn dilyn amserlen yr haf. Er gwaethaf yr anfantais fach hon, edrychais drwy’r holl lyfrau, a gwneud nodiadau ar bob un. Hefyd cedwais ryw fath o ddyddiadur, lle nodais y gwaith yr oeddwn wedi ei wneud yn ystod y diwrnod ynghyd ag unrhyw syniadau diddorol oedd gen i, i gadw cofnod o’m cynnydd. 

Yn wir, roedd fy nghynnydd yn bell o fod yn unionsyth: fel marchog crwydrad, bûm yn crwydro trwy'r goedwig o lyfrau, ac roedd rhai llwybrau nad oeddent yn arwain i unman. Dim ond tua diwedd yr wythnos y dechreuais ddarllen Parsifal Rolleston, ac ar unwaith yr oeddwn wedi fy nghyfareddu: roedd rhythm araf y farddoniaeth, a’r addurniadau a’r darluniau unlliw a ddisgleiriai ar bob tudalen yn wahanol iawn i’r math o lenyddiaeth Arthuraidd roeddwn i wedi arfer â hi: naill ai rhamantau canoloesol mewn llawysgrifau ac argraffiadau ysgolheigaidd modern, neu ffuglen fodern mewn llyfrau clawr papur. Llefarodd llyfr Rolleston am le gwahanol, a set wahanol o werthoedd diwylliannol: os nad oedd yn gampwaith, roedd yn hardd yn ddi-os. 

Mae’r casgliad a gynigir yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd yn unigryw yn gymaint a’i fod yn cynnwys llawer o weithiau o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif a ysbrydolwyd gan Arthuriana, yn ogystal ag argraffiadau ac addasiadau o ddeunydd Arthuraidd a Cheltaidd canoloesol a gweithiau ysgolheigaidd a gynhyrchwyd yn y un cyfnod.
Yn y cyfnod ôl-ganoloesol, cafodd deunydd Arthuraidd ei addasu ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol a’i ddarllen ganddynt, er enghraifft, y 'darllenydd cyffredin', hynafiaethwyr ac ysgolheigion llenyddiaeth a llên gwerin. Mae'r Ganolfan Arthuraidd yn cynnwys enghreifftiau o’r gwahanol ffyrdd hyn o ddefnyddio Arthuriana canoloesol. I enwi un enghraifft yn unig, mae Llyfrgell a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor yn cadw nifer o gyfieithiadau ac argraffiadau cynnar o'r Mabinogi: cyfieithiad William Owen Pughe, a gyhoeddwyd gyntaf yn y Cambrian Register yn 1795, yr argraffiad cyntaf a'r ail argraffiad o gyfieithiad y Fonesig Guest (1838-1849 a 1877), llyfrynnau poced diweddarach wedi eu golygu gan Alfred Nutt, yn ogystal â addasiadau Sidney Lanier yn The Boy’s Mabinogion (1881) [https://archive.org/details/knightlylegendso00lani]. Bu’r ffynonellau hyn a ffynonellau Celtaidd eraill yn ysbrydoliaeth i awduron dechrau’r ugeinfed ganrif, llawer ohonynt yn weddol hysbys heddiw:.. TW Rolleston, ond hefyd Thomas Evelyn Ellis, a ysgrifennodd The Cauldron of Annwn (1922). 

Mae'r argraffiadau a’r addasiadau hyn o ffynonellau Arthuraidd, yn ogystal â gweithiau ffuglen a chelf a ysbrydolwyd ganddynt, wedi dylanwadu ar genedlaethau dilynol o ddarllenwyr ac ysgolheigion a'u hymatebion i Arthuriana a thestunau Arthuraidd canoloesol gwreiddiol. Yn ystod fy wythnos yn y Ganolfan, dilynais y llwybr ymchwil hynod dddiddorol hwn trwy blethwaith o'r gweithiau creadigol ac ysgolheictod cynharach hyn a luniwyd rhwng y bedwaredd ganrif ar bymtheg a hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif: bydd ymchwil bellach gan ysgolheigion, a gyflawnwyd yng Nghanolfan Bangor , yn taflu goleuni newydd ar orffennol – a dyfodol - llenyddiaeth Arthuraidd. 

Dr Anastasija Ropa, Prifysgol Latfia

Dyddiad cyhoeddi: 1 Ebrill 2017