Blog: Cyn-fyfyrwyr PhD Arthuraidd Prifysgol Bangor yn cyhoeddi llyfr newydd

Y Ceffyl yn Niwylliant Ewrop yr Oes Gynfodern: pam mae hanes y ceffyl yn bwysig i ysgolheigion Arthuraidd

Yn 2014, euthum i'r Gyngres Ganoloesol Ryngwladol yn Leeds, gyda phapur am fân gymeriad benywaidd yn un o'r rhamantau Arthuraidd, gwraig y Brenin Solomon yn y Queste del Saint Graal. Deilliodd hynny o un o benodau'r traethawd doethuriaeth yr oeddwn newydd gwblhau'n a'r papur cyntaf roeddwn i'n mynd i'w gyflwyno fel doethur. Doedd gen i ddim syniad beth fyddwn i'n ei wneud nesaf. Roedd gen i swydd â chyflog da y tu allan i'r byd academaidd, a fawr ddim syniad beth i'w wneud nesaf o ran ymchwil - yn wir a fyddwn yn gallu gwneud unrhyw ymchwil o gwbl yn y dyfodol.

Wyddwn i ddim bryd hynny, ond byddai cwrdd â Timothy Dawson yn un o dderbyniadau IMC yn drobwynt yn fy ngyrfa. Ysgolhaig Arthuraidd a Bysantydd - beth allem ni siarad amdano? Roedd gennym un diddordeb yn gyffredin: hanes y ceffyl. Cytunwyd bod gwybod am hanes ceffylau'n hanfodol i ganoloeswyr, oherwydd bod ceffylau'n rhan annatod o fywyd y canoloesoedd, ac eto prin oedd yr astudiaethau diweddar yn y maes ac ychydig iawn o ddiddordeb oedd yn hanes marchogaeth y canoloesoedd bryd hynny. Roedd llyfrau Ann Hyland wedi dyddio a chaent eu beirniadu oherwydd nad oedd ganddi gefndir academaidd. Ac eto, doedd dim byd i gymryd lle ei hastudiaethau cynhwysfawr o'r ceffyl canoloesol i ganoloeswyr a oedd am gael cyflwyniad cyffredinol i'r maes.

Penderfynon ni ateb yr her trwy gynnig sesiwn ar hanes y ceffyl yn y nesaf. A dweud y gwir, gyda’r ymatebion a gawsom i’n galwad am bapurau, gallem drefnu tair sesiwn ryngddisgyblaethol ar farchogaeth ganoloesol yn 2015 a phedair sesiwn yn 2016. Hefyd, pan euthum i Kalamazoo yn 2016, cyfarfûm â Dr Simon Forde, cyfarwyddwr Gwasg Arc Humanities, a awgrymodd gyhoeddi llyfr am y ceffyl yn Ewrop yr Oesoedd Canol. Nid oeddwn yn teimlo'n ddigon cymwys na phrofiadol i ysgrifennu monograff am geffylau'r canoloesoedd ar y pryd, ac felly cynigiais gyfrol olygedig yn seiliedig yn bennaf ar gyfraniadau'r IMC. 

Cymerodd bron i bedair blynedd i mi a Timothy gwblhau’r llyfr, a chredaf mai amserol yw hynny, o ystyried bod y fenter yn un arloesol yn ysgolheictod canoloesol Lloegr a’r ffaith bod y cyfraniadau’n rhychwantu amrywiaeth o gyfnodau amser, rhanbarthau a disgyblaethau. 

Roedd gennym awduron anhygoel, yn eu plith Elina Cotterill, a fu'n astudio llenyddiaeth Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor, fel y gwnes innau ac a gawsai'r Athro Raluca Radulescu yn oruchwylydd iddi. Roeddwn wrth fy modd pan dderbyniodd Elina fy ngwahoddiad i gyflwyno papur yn yr IMC a chynigiais siarad am draethodau hipiatreg, mater pwysig ond cymhleth yn hanes marchogaeth y canoloesoedd. Esboniodd Elina wrthyf fod ei diddordeb mewn meddyginiaethau hipiatreg yn deillio o ddyddiau cynnar ei MPhil ym Mangor, pan ddechreuodd edrych ar gyd-destun marchogaeth y canoloesoedd a Morte D'arthur a darganfod nifer o draethodau hipiatreg. Ni allai archwilio'r rheiny'n fanwl am rai blynyddoedd ar ôl graddio. A hithau bellach yn Rhydychen, mae ganddi hi'r holl adnoddau angenrheidiol i gwblhau astudiaeth o'r fath, ac mae ei herthygl yn wybodus, yn hawdd ei darllen ac yn hynod ddiddorol i ysgolheigion llenyddiaeth ac i'r rhai sydd â'r diddordeb pennaf yn hanes y ceffyl. 

Wrth weithio ar y llyfr, buom yn ddigon ffodus i gwrdd ag ysgolheigion o gefndiroedd amrywiol, rhai ohonynt ar ddechrau eu gyrfaoedd, ac eraill yn fwy profiadol. Ni allwn gredu inni dderbyn papur gan John Clark, golygydd The Medieval Horse and Its Equipment c. 1150-1450, sef y llyfr allweddol ar hanes marchogaeth yn y canoloesol ers ei gyhoeddi ym 1995. Roedd ein llyfr yn cynnwys cyfraniadau gan rai nad oedd Saesneg yn famiaith iddynt a rhai heb fawr ddim profiad o ysgrifennu i gyhoeddiadau academaidd, a bu sawl awdur yn ddigon hael â'u hamser i adolygu papurau awduron eraill. Roedd John Clark ac Elina Cotterill ymhlith y gwirfoddolwyr, ac rwy’n ddiolchgar iawn am y sylwadau ynghylch yr iaith a’r cynnwys y mae ein hawduron-adolygwyr wedi’u cynnig.

Gobeithiaf y bydd ein cyfrol yn ddefnyddiol i amryw o ysgolheigion, gan gynnwys y rhai sydd a'u bryd ar ganlyn Arthur, oherwydd mae gwybod am geffylau canoloesol yn bwysig i'r sawl sydd eisiau deall lle’r ceffyl yn y rhamantau canoloesol. Hefyd, mae dwy erthygl yn y gyfrol yn cyfeirio at destun Arthuraidd. Mae erthygl Miriam Bibby yn olrhain hanes ceffylau'r Alban gan ddechrau gyda rhamant Guillaume le Clerc o Fregus, sy'n cyflwyno ceffyl yr arwr megis cynrychiolydd rhagorol o'i fath. Yn fy erthygl innau am bris a gwerth ceffyl rhyfel canoloesol, rwy’n trafod enghreifftiau o sawl rhamant Arthuraidd, gan gynnwys Sir Gawain and the Green Knight, La Queste del Saint Graal a Le Mort Darthur Thomas Malory. Mae erthygl Miriam a fy erthygl innau yn cael eu llywio gan y gred nid yn unig y gall astudio hanes marchogaeth wella ein dealltwriaeth o ramantau Arthuraidd, gall darllen gwybodus o benodau sy'n ymwneud â cheffylau mewn rhamantau Arthuraidd gyfrannu hefyd at ein dealltwriaeth o hanes ceffylau.

Am y llyfr: Mae'r gyfrol hon yn cynnwys ymagweddau at astudiaethau ceffylau o ddisgyblaethau amrywiol megis archeoleg, hanes cyfreithiol, economaidd a milwrol, hanes trefol a gwledig, celfyddyd a llenyddiaeth. Mae'r gyfrol hon yn archwilio rôl hollbresennol - a rôl sy'n aml yn amwys - sef rôl y ceffyl yn niwylliant y canoloesoedd, a hwnnw'n anifail i'w drysori yn ogystal ag yn ddull o gludo, yn beiriant milwrol ac yn gydymaith ffyddlon. Mae'r cyfranwyr, llawer ohonynt yn meddu ar wybodaeth ymarferol am geffylau, yn ysgolheigion o fri ac yn gyw ysgolheigion sy'n gweithio yn eu meysydd arbenigol.

Ynglŷn ag un o'r awduron: Mae gan Anastasija Ropa PhD o Brifysgol Bangor, y Deyrnas Unedig. Hi yw awdur Practical Horsemanship in Medieval Arthurian Romance (Trivent, 2019) a golygydd Rewriting Equestrian History a gyhoeddwyd gan Trivent. Ar hyn o bryd, mae hi'n ddarlithydd yn Adran Rheolaeth a Gwyddor Cyfathrebu, Academi Addysg Chwaraeon Latfia.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2020