Gotfrit von Straszburg, Trystan 1821

Rydym yn darganfod ychydig o drysorau wrth gatalogio casgliad Aruthuraidd Harries Sir y Fflint.  Y trysor diweddaraf yw fersiwn o Trystan gan Gottfried von Strassburg a argraffwyd ar bapur a wnaed â llaw, dyddiedig 1821.

Gottfried von Strassburg (a bu farw tua 1210) yw awdur Trystan y serch llysaidd mewn Almaeneg Uwch Canoloesol, sef addasiad o'r chwedl Tristan a'r Iseult o'r ddeuddegfed ganrif. Caiff gwaith Von Strassburg ei gydnabod yn gyffredinol fel yr addasiad gorau o'r chwedl hon am gariadon canoloesol, ac aeth ymlaen i ddylanwadu ar genedlaethau o awduron ac artistiaid. Dyma'r dylanwad a'r ysbrydoliaeth mwyaf i opera Richard Wagner, Tristan und Isolde.

 

Gotfrit von Straszburg, Trystan 1821, y cyhoeddwr yw Reimer: Berlin

 

Dyddiad cyhoeddi: 17 Ebrill 2018