The Romance of Sir Degrevant
Argraffwyd ‘The Romance of Sir Degrevant’ gan William Morris yn Kelmscott Press, Hammersmith, 1896. Mae hwn yn un o ddim ond 350 o gopïau gwreiddiol a wnaed ar bapur gydag 8 copi ar felwm. Dyluniwyd y wynebddarlun gan Edward Burne-Jones a'i hysgythru gan W. H. Hooper. Y teip argraffu yw Chaucer Type wedi'i argraffu ar bapur a wnaed â llaw sy'n cynnwys yr ail fersiwn o'r dyfrnod Primrose.
Ysbrydolwyd llawer o ysgrifennu William Morris, ei bynciau a'i arddull gan ei gariad at lenyddiaeth ganoloesol. Roedd y rhain i'w gweld yn llawysgrifau darluniadol a chyfrolau printiedig o Ewrop Modern Cynnar. Nid yw'n syndod felly iddo ddewis cyhoeddi'r chwedl hon. Mae Sire Degrevauntyn rhamant ganoloesol a gyfansoddwyd tua 1440. Mae wedi goroesi mewn dau fersiwn ar ffurf llawysgrif; MS 91 yn Llyfrgell Eglwys Gadeiriol Lincoln (casgliad o destunau a gasglwyd gan Robert Thornton) a Ff.i.6 yn Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt (blodeugerdd a gasglwyd gan deulu Findern o Swydd Derby a'u ffrindiau)
Mae'r rhamant Saesneg Canoloesol hon a edmygir yn fawr am ei realaeth a'i chynllun wedi'i hysgrifennu ar ffurf penillion gydag odl a mesur gwahanol yn y llinell olaf. Mae’n stori garu sy'n dilyn ymdrechion marchog ifanc o'r enw Degrevant, i brofi ei fod yn deilwng i briodi ei annwyl Melidor, merch Iarll cyfagos, y mae wedi ffraeo ag ef oherwydd anghydfod ynglŷn ag hela. Mae'r forwyn ddifater yn gwrthod ymdrechion cyntaf y marchog ifanc ac mae'n rhaid i Degrevant ofyn am gymorth ei morwyn sydd â syniadau rhamantus am y sgweier. Fodd bynnag, yn y cyfamser mae'r Iarll wedi addo y caiff ei ferch briodi Dug Gerle sy'n trefnu twrnamaint er anrhydedd Melidor lle mae'n bwriadu lladd ei wrthwynebydd. Yn anffodus i Ddug Gerle, mae Degrevant yn ei daro oddi ar ei geffyl ddwywaith, er mawr hwyl i Melidor ac mae ei gwatwar yn gwneud i'r Dug adael mewn cywilydd. Mae Degrevant yn defnyddio mynedfa gyfrinachol, a ddangoswyd iddo yn flaenorol gan y forwyn, i gael mynediad i ystafell Melidor lle mae'n cyfaddef ei bod yn ei charu ac maent yn cytuno i briodi ond mae hi'n gwrthod cyflawni eu perthynas tan ar ôl iddynt briodi.
Am naw mis mae'r marchog ifanc yn cynnal carwriaeth â'i gariad trwy ymweld â'i siambr bob nos hyd nes y darganfyddir eu bod yn cadw oed. Mae hyn yn arwain at frwydr waedlyd gyda bywydau'n cael eu colli ar y ddwy ochr. Yn y pen draw, caiff yr Iarll ei berswadio gan ei wraig yr Iarlles i ganiatáu'r briodas sy'n arwain at y Marchog a'r Iarll yn cymodi a diweddglo hapus i'r ddau gariad.
Cynhyrchwyd y llyfr hwn, a grëwyd â llaw fel gwaith artistig yn hytrach nag ymdrech fasnachol, gan William Morris yn Kelmscott Press mewn niferoedd bach gan ei wneud yn eitem boblogaidd iawn i gasglwyr. Gwasg Kelmscotte oedd y wasg enwocaf a mwyaf poblogaidd o'r gweisg preifat. Defnyddir y term "gwasg breifat" yn aml i gyfeirio at fudiad cynhyrchu llyfrau a ffynnodd tua throad yr 20fed ganrif dan ddylanwad yr ysgolheigion-grefftwyr William Morris, Syr Emery Walker a'u dilynwyr. Yn aml, ystyrir bod y mudiad wedi cychwyn gyda sefydlu Gwasg Kelmscott gan William Morris ym 1890, yn dilyn darlith ar argraffu a roddwyd gan Walker yn y Gymdeithas Arddangosfa Celf a Chrefft ym mis Tachwedd 1888. Roedd prif gynheiliad y mudiad yn ymwneud â dychwelyd i greu llyfrau trwy ddulliau argraffu a rhwymo traddodiadol, gyda phwyslais ar y llyfr fel gwaith celf a'r sgiliau llaw yn gysylltiedig â'u cynhyrchu. Roedd hyn yn ymadael â'r llyfrau rhad a fasgynhyrchwyd adeg y chwyldro diwydiannol. Cafodd Morris ei ddylanwadu'n fawr gan lyfrau printiedig canoloesol a chafodd yr 'arddull Kelmscott' ddylanwad ar weisg preifat yn ddiweddarach. Gwnaed y llyfrau gyda deunyddiau o ansawdd uchel (papur wedi'i wneud â llaw, inciau traddodiadol ac, mewn rhai achosion, teipiau wedi'u dylunio'n arbennig), ac yn aml roeddent wedi eu rhwymo â llaw.
Mae'r copi hwn yn rhan o Gasgliad Flintshir Harries a welir yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd yn y Brif Lyfrgell.
Gan Shan Robinson s.a.robinson@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2020