Newyddion: Gorffennaf 2017

Neges blog gan Casey Harris, ymgeisydd MA, Prifysgol Villanova, UDA, cymrawd tymor preswyl cyntaf y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, Gorffennaf 2017

Bu'r mis a dreuliais fel ysgolhaig ymchwil ar ymweliad ym Mhrifysgol Bangor yn eithriadol werthfawr i mi o ran gosod y seiliau ar gyfer y traethawd hir MA. Rwy'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Villanova, ac mae fy nhraethawd hir yn ymwneud â hanes Regum Brittaniae Sieffre o Fynwy ...

Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2017

Cyhoeddi golygiad awdurdodol newydd o Morte Darthur Malory

Le Morte Darthur, a ysgrifennwyd gan Thomas Malory yn y bymthegfed ganrif, yw’r stori Saesneg fwyaf poblogaidd am y Brenin Arthur chwedlonol. Mae'r golygiad newydd hwn yn cyflwyno testun awdurdodol i fyfyrwyr ar bob lefel yn ogystal ag i’r darllenydd cyffredin.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2017

Gorffennaf 2017

Yn ystod seremonïau graddio'r brifysgol yng Ngorffennaf derbyniodd yr Athro Raluca Radulescu Gymrodoriaeth Rhagoriaeth Dysgu ar sail ei gwaith addysgu a goruchwylio ymchwil ym meysydd astudiaethau canoloesol ac Arthuraidd.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2017

Gorffennaf 2017

Yn ystod y 24 ain Gyngres Arthuraidd Ryngwladol a gynhaliwyd yn Wurzburg fis Gorfennaf eleni, cafwyd cyfraniadau gan aelodau ac aelodau cysylltiol y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd (staff a myfyrwyr o Brifysgol Bangor a mannau eraill).

Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2017