Newyddion Diweddaraf

Dewch i ddathlu’r Nadolig gyda ni

Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2024

Mae ffilm hir-ddisgwyliedig newydd A24 Green Knight, gyda Dev Patel yn y brif ran, wedi cael ei ryddhau’n ddiweddar i gynulleidfaoedd yn y Deyrnas Unedig

Mae’r ddelweddaeth apocalyptaidd yn sgil rhyfel, y naws chwedlonol a delweddau syfrdanol yn dwyn rhybuddion cyfoes am berygl difodiant a dinistr ecolegol i’r meddwl, tra bo’r modd dirgel y cyflwynir Gawain a’r Marchog Gwyrdd yn herio cynulleidfaoedd modern i ystyried eu naïfrwydd posibl eu hunain ynghylch y peryglon sydd wedi codi trwy oruchafiaeth dyn dros fyd natur dros ganrifoedd o ddiwydianeiddio.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Chwefror 2022

Arbenigwraig o Brifysgol Bangor yn cyfrannu at lansio stampiau chwedlau Arthur

Mae cymeriadau chwedlau Arthur yn amlwg mor boblogaidd ag erioed wrth i’r Post Brenhinol gyhoeddi casgliad newydd o stampiau heddiw (16.3.21). Comisiynwyd y dyluniadau newydd gan yr artist Jaime Jones, ac mae’r testun sy’n cyd-fynd â nhw wedi ei lunio gan yr Athro Raluca Radulescu, o Brifysgol Bangor, sy’n arbenigo yn chwedlau Arthur.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Mawrth 2021

Fersiwn ddigidol o Fwletin Llyfryddol y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol ar gael gyda'r casgliad copi caled yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd

Mae fersiwn ddigidol o Fwletin Llyfryddol y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol ar gael bellach gyda'r casgliad copi caled yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2020

Cymdeithas ôl-raddedig Rhyngwladol mewn Astudiaethau Arthuraidd yn cael ei lansio gan Brifysgol Bangor

Am y tro cyntaf ers dechrau cynnal y gynhadledd hon 16 mlynedd ôl bu’r rhaid newid lleoliad cynhadledd Trawsnewid yr Oesoedd Canol o’r 'Coleg ar y Bryn' i leoliad rhithiol mewn cydweithrediad â’r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd. Dros ddau ddiwrnod (18-19 Medi 2020), croesawodd y Ganolfan dros 150 o siaradwyr a mynychwyr o bob rhan o'r byd i gyfnewid syniadau am 'Symud trwy Chwedlau Arthuraidd'.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2020