Newyddion: Hydref 2020
Fersiwn ddigidol o Fwletin Llyfryddol y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol ar gael gyda'r casgliad copi caled yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd
Mae fersiwn ddigidol o Fwletin Llyfryddol y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol ar gael bellach gyda'r casgliad copi caled yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2020
Cymdeithas ôl-raddedig Rhyngwladol mewn Astudiaethau Arthuraidd yn cael ei lansio gan Brifysgol Bangor
Am y tro cyntaf ers dechrau cynnal y gynhadledd hon 16 mlynedd ôl bu’r rhaid newid lleoliad cynhadledd Trawsnewid yr Oesoedd Canol o’r 'Coleg ar y Bryn' i leoliad rhithiol mewn cydweithrediad â’r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd. Dros ddau ddiwrnod (18-19 Medi 2020), croesawodd y Ganolfan dros 150 o siaradwyr a mynychwyr o bob rhan o'r byd i gyfnewid syniadau am 'Symud trwy Chwedlau Arthuraidd'.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2020
The Romance of Sir Degrevant
Argraffwyd ‘The Romance of Sir Degrevant’ gan William Morris yn Kelmscott Press, Hammersmith, 1896. Mae hwn yn un o ddim ond 350 o gopïau gwreiddiol a wnaed ar bapur gydag 8 copi ar felwm. Dyluniwyd y wynebddarlun gan Edward Burne-Jones a'i hysgythru gan W. H. Hooper. Y teip argraffu yw Chaucer Type wedi'i argraffu ar bapur a wnaed â llaw sy'n cynnwys yr ail fersiwn o'r dyfrnod Primrose.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2020